Geirda.
Dyma beth sydd gan gyn-gyflogwyr i ddweud am fy ngwaith dylunio a chysodi. CYSYLLTWCH am fwy o wybodaeth ac i ddechrau trafod sut gall Blagur eich helpu chi.
Braint o'r mwya yw cymeradwyo Ynyr fel cysodydd a dylunydd. Bu'n gweithio'n llawn amser gyda ni yn y wasg am sawl blwyddyn fel dylunydd. Roedd bob amser yn broffesiynol, yn ddibynadwy, cwrtais a hawddgar. Mae'n gweithio'n sydyn a di-drafferth, gyda'r gwaith gorffenedig bob amser yn safonol.
Aled Davies, Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau'r Gair
Mae Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yn ddiolchgar i Ynyr Roberts am ei waith rhagorol dros nifer o flynyddoedd yn cynllunio ac yn dylunio ein deunydd. Bu ei waith o ddefnydd mawr i ni yn nhermau trosglwyddo ein gweithgaredd yn effeithiol i eraill.’
Parchg. Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn
Mae Ynyr yn weithiwr cydwybodol, brwdfrydig a phroffesiynol sy'n ymfalchïo yn ei waith. Mae'n ddylunydd profiadol sy'n cyd-weithio'n wych pan yn rhan o dîm, ac yn ddibynadwy tra'n cyflawni ei waith.
Lucy Hopkins, Rheolwr Brand CBAC / Rheolwr Marchnata Portal
Pleser pur oedd cydweithio ag Ynyr i greu cwrs Cymraeg. Mae’n gwbl broffesiynol gan ymateb i bob cais yn brydlon. Mae’r gwaith a gynhyrchodd o’r safon uchaf.
Helen Prosser
Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Dylunio stondin ar gyfer arddangosfa Cymru yn sioe Salon du Fromage, Paris.

Gwersi BTEC Addysg Bersonol

Catalog label recordio Gwynfryn Cymunedol

Dylunio stondin ar gyfer arddangosfa Cymru yn sioe Salon du Fromage, Paris.
